Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

CA594

 

Teitl: Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 i'w gwneud yn ofynnol i'r person sy'n rheoli cartref gofal feddu ar lefel gymhwyster sy'n ofynnol er mwyn ymgymryd â'r rôl honno ac iddo fod wedi ei gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r rheoliadau hyn o dan Reol Sefydlog 21.3(ii): ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Yn sgil pryderon cyhoeddus a leisiwyd yn ddiweddar ynghylch rheoli a rhedeg cartrefi gofal sy’n darparu gwasanaethau i oedolion, bydd Aelodau’r Cynulliad o bosibl yn dymuno nodi bod y Rheoliadau hyn yn cyflwyno trefniadau newydd i’w wneud yn ofyniad cyfreithiol bod holl reolwyr cartrefi gofal i oedolion yn cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru er mwyn bodloni gofynion y rôl.

 

Gosodwyd yr offeryn yn ystod y Trydydd Cynulliad ac nid oedd yn bosibl adrodd arno o fewn yr 20 diwrnod arferol. Mae gwybodaeth ychwanegol am y broses hon ar gael yn yr adroddiad (rhif cyfeirnod y ddogfen: CR-LD8540) gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol blaenorol a osodwyd ar 31 Mawrth 2011.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

Mehefin 2011